Datganiad hygyrchedd

Ofcom sy'n cynnal y wefan hon. Rydym am sicrhau bod gymaint â phosib o bobl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • chwyddo mewn hyd at 300% heb golli'r testun oddi ar y sgrin
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi geirio'r wefan mor glir â phosib

Mae cyngor ar gael ar AbilityNet <https://mcmw.abilitynet.org.uk/> ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw’r testun alt yn y logo Cymraeg yn Gymraeg

Beth i’w wneud os nad ydych chi’n gallu cael mynediad at rannau o’r wefan hon

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â thîm y we.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 21 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n meddwl nad ydyn ni’n cyflawni’r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â digitalandcreative@ofcom.org.uk

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Ofcom wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 oherwydd y mathau o ddiffyg cydymffurfio sydd wedi'u rhestru isod.

Methu cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

  • mae'r ddelwedd dolen ar y dudalen hafan Gymraeg yn cynnwys testun Saesneg. Mae hyn yn methu o ran cydymffurfio â Maen Prawf Llwyddiant 3.1.2 Iaith Rhannau WCAG 2.1. (Lefel A)

Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Rhagfyr 2020.

Sut gwnaethon ni brofi’r wefan hon

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 12 Medi 2019 a'u hadolygu ym mis Medi 2019.

Cynhaliwyd y prawf gan Bim Egan o Access Equals.

Gwnaethon ni brofi: https://www.smallscreenbigdebate.co.uk/

Y porwyr a’r technolegau mynediad a ddefnyddiwyd yn y prawf:

  • Chwyddwr sgrin ZoomText f2019
  • JAWS f2019.1907
  • NVDA f2019.2
  • VoiceOver ar iOS v12.3
  • Google Chrome v77
  • Mozilla Firefox ESR a v67
  • Microsoft Internet Explorer v11
  • ZoomText screen magnifier v2019
  • JAWS v2019.1907
  • NVDA v2019.2
  • VoiceOver ar iOS v12.3
  • Google Chrome v77
  • Mozilla Firefox ESR a v67
  • Microsoft Internet Explorer v11

Gwnaethon ni brofi:

  • Pob tudalen

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn bwriadu datrys y materion hyn erbyn mis Rhagfyr 2020.

Paratowyd y datganiad hwn ar 17 Hydref 2019 a chafodd ei ddiweddaru ar 21 Medi 2020.