Ymchwil ac adroddiadau

Fel rhan o Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr, rydym wrthi'n gweithredu rhaglen helaeth o ymchwil a digwyddiadau i ddeall beth mae pobl o bob cwr o'r DU yn ei ddymuno ac ei angen o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB). Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r adran hon drwy gydol yr adolygiad hwn.

Rydyn ni hefyd wedi cynhyrchu teclyn data rhyngweithiol sy'n dangos y newidiadau yn yr hinsawdd gyfryngau mae pobl ifanc wedi'i gweld yn ystod eu bywydau.

Ymchwil

Comisiynwyd yr ymchwil hwn fel dilyniant i'r ymchwil a gyhoeddwyd gennym ym mis Gorffennaf. Archwiliodd yr astudiaeth newydd hon sut mae'r pandemig Covid-19 a'r cyfnod clo yn y DU wedi effeithio ar agweddau ac ymddygiadau tuag at ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Mae'r adroddiad ymchwil llawn a fideos sy'n amlygu rhai o'r arsylwadau o'n cyfweliadau a'n grwpiau ffocws ar gael isod. Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Fe wnaethon ni gomisiynu ymchwil i ofyn i wylwyr a gwrandawyr ar draws y DU i roi eu barn i ni am gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus (DGC), ei rol a'i berthnasedd i'w bywydau, a sut gallai hynny newid yn y dyfodol. Mae'r adroddiad llawn a'r fideos yn dangos rhai o'n canfyddiadau yn ystod y cyfweliadau a'r grwpiau ffocws ar gael isod.

Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi adroddiad meintiol a thablau data yn canolbwyntio ar fuddion personol a chymdeithasol DGC. Mae hwn yn rhan o'n hymchwil parhaus a chafodd ei gynnal cyn cyfnod clo Covid-19 y DU.

Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.

An exploration of people’s relationship with PSB; with a particular focus on the views of young people – Jigsaw Research (PDF, 2.0 MB)

Public Service Broadcasting: omnibus survey findings (PDF, 782.1 KB)

Public Service Broadcasting: omnibus survey findings – data tables (PDF, 2.6 MB)

Public Service Broadcasting: omnibus survey findings – data (CSV, 3.0 MB)

Quantitative research findings – March questionnaire

Fel dilyniant i'n gwaith yn Chwefror (isod) gwnaethon ni gomisiynu YouthSight i ofyn i banel o bobl ifanc unwaith eto ynghylch eu defnydd o'r cyfryngau. Roedd hyn yn ystod y cyfnod cloi oherwydd pandemig y coronafeirws. Gwnaethon ni eu holi'n benodol am rol darlledwyr y DU yn ystod y pandemig, eu defnydd o'r cyfryngau yn ystod y cyfyngiadau symud ac os oedden nhw o'r farn y byddai eu harferion yn newid unwaith byddai'r cyfyngiadau wedi dod i ben. Mae'r fideo ar gael yn Saesneg yn unig.

Gwnaethon ni ofyn i bobl 16-24 oed ynghylch sut mae'r cyfyngiadau symud wedi effeithio eu harferion gwylio a gwrando a beth oedden nhw'n meddwl am rol y cyfryngau yn ystod yr argyfwng iechyd Covid-19. Mae'r fideo ar gael yn Saesneg yn unig.

Adroddiadau

Ym mis Mehefin y llynedd gwnaethom gyhoeddi adroddiad gan y cwmni ymgynghori Mediatique yn edrych ar y ddeinameg fasnachol dan sylw pan fydd gwasanaethau fel iPlayer neu Netflix yn cael eu cario gan lwyfannau teledu cysylltiedig fel Amazon Fire TV neu Samsung Tizen. Nodom fod y ddeinameg hon yn berthnasol i ddyfodol cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus.

Awgrymodd ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid ers hynny fod hysbysebu'n chwarae rhan gynyddol bwysig yn y ddeinameg hon. Er mwyn datblygu ymhellach ein dealltwriaeth o'r maes hwn, comisiynwyd cwmni ymgynghori Spark Ninety i gynhyrchu adroddiad ar ddeinameg y farchnad hysbysebu mewn teledu cysylltiedig, gan gynnwys trefniadau o ran rhestri hysbysebu, cyfrannau refeniw, a'r dechnoleg a data sy'n sail iddynt.

Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Connected TV gateways: review of market dynamics – a report by Mediatique (PDF, 2.0 MB)

Connected TV advertising market dynamics – a report by Spark Ninety (PDF, 2.8 MB)

Comisiynwyd Mediatique gennym i archwilio opsiynau amgen ar gyfer cyflwyno cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus wrth ymateb i dueddiadau mewn technoleg, ymddygiad defnyddwyr a modelau busnes.

Future models for the delivery of public service broadcasting (PDF, 1.0 MB) (Saesneg)
Annex 1: A summary of industry stakeholder interviews (PDF, 282.6 KB) (Saesneg)

Adroddiad annibynnol gan Dr Lee Edwards (LSE) a Dr Giles Moss (Prifysgol Leeds) sy'n cyflwyno canlyniadau am ddyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus.

Debating the Future of Public Service Broadcasting: Recommendations of an Online Citizens’ Assembly
(PDF, 1.5 MB) (Saesneg)

Comisiynwyd y papur hwn gan Dr Helen Weeds, ac mae'n trafod y sail resymegol economaidd dros ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB) mewn amgylchedd newidiol.

Rethinking public service broadcasting for the digital age (PDF, 367.5 KB) (Saesneg)

Gwnaeth EY gynnal ymchwil i'r safbwyntiau rhyngwladol ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, (PSB) yn cynnwys safbwyntiau am gynnwys PSB y DU, y dull ariannu a sut mae'r darlledwyr PSB yn addasu i dueddiadau sy'n newid.

International perspectives on public service broadcasting (PDF, 4.0 MB) (Saesneg)

Ein hadolygiad ar sut mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB) wedi cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd y DU dros gyfnod o bum mlynedd (2014 i 2018).

Sgrin Fach, Trafodaeth Fawr -adolygiad pum mlynedd o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus (2014-2018)

Ein canfyddiadau a’n casgliadau yn ein hail adolygiad o berfformiad C4C yn cyflawni ei dyletswyddau o’r un cyfnod â’r adolygiad darlledu gwasanaeth cyhoeddus (2014-18).

Adolygiad pum mlynedd Corfforaeth Channel 4 (Saesneg)