Fideos Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr

Fel rhan o'n trafodaeth genedlaethol ar ddyfodol cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus, rydym wedi cynnal digwyddiadau i’r diwydiant ledled y DU, gan gynnwys ein Rhith-gynhadledd SF:TF tridiau ym mis Hydref 2020. Gallwch wylio lluniau o rai o'r digwyddiadau hyn isod.

Rhith-gynhadledd #SSBD2020 - Hydref 2020

Rhwng 5 a 7 Hydref, bu i ni gynnal rhith-gynhadledd a  edrychodd ar y cwestiynau mawrion sy'n wynebu darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y 2020au.

Trwy gyfres o drafodaethau panel a chyfweliadau gyda ffigurau blaenllaw ar draws y byd darlledu, gwnaethon ni archwilio beth sydd angen i PSB ei wneud i gysylltu gyda chynulleidfaoedd heddiw, y rôl y mae’n ei chwarae wrth gefnogi amrywiaeth ar ac oddi ar y sgrin, y cyfraniad mae’n ei wneud i ddiwydiannau creadigol y DU a sut gall y system gwasanaeth cyhoeddus barhau i gael ei ariannu.

Dros gyfnod o dridiau, gwnaeth cynhyrchwyr, comisiynwyr a sylwebwyr ochr yn ochr ag arweinwyr o’r BBC, Channel 4, Channel 5, ITN, ITV, Ofcom ac STV, ddweud eu barn wrthym am ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU.

Gwyliwch yr uchafbwyntiau

Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Gwyliwch y cyfweliadau a'r trafodaethau

Rydym wedi creu rhestr gwylio fideos ar gyfer pob dydd o'r gynhadledd, ac mae modd gwylio pob cyfweliad a thrafodaeth. Cliciwch ar bob dydd isod i weld rhestr wylio pob diwrnod.

Os hoffech chi wylio'r holl fideos ar gyfer diwrnod penodol, gwasgwch 'chwarae' a bydd y sesiynau yn dilyn ei gilydd mewn trefn. Os hoffech chi wylio sesiwn benodol, cliciwch y gwymplen ar frig ochr dde chwaraewr fideo pob dydd a dewis y sesiwn yr hoffech ei gwylio. Bydd y sesiwn wedyn yn llwytho yn y chwaraewr fideo. Nodwch fod y fideos isod ar gael yn Saesneg yn unig.

  1. Anerchiad agoriadol gan y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom
    Agorodd Melanie y drafodaeth yn myfyrfio ar beth mae PSB yn ei roi i gynulleidfaoedd a chymdeithas ac amcanion Ofcom ar gyfer Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr.
  2. Sgwrs gyda June Sarpong
    Yn gyntaf mewn cyfres o gyfweliadau gyda ffigurau blaenllaw, gwnaeth Cyfarwyddwr Amyrwiaeth Creadigol y BBC, June Sarpong sgwrsio â Krishnan Guru-Murthy ynghylch sut i sicrhau bod amrywiaeth yn rhan annatod o’r BBC a chreu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus sy’n taro deuddeg gyda chynulleifaoedd.
  3. Trafodaeth Panel: ‘Gwneud i Straeon Gyfrif: Rôl Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn y diwydiannau creadigol’ 
    Yn y sesiwn yma, mae Nina Hossain o ITV News yn archwilio rôl newidiol y byd darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn niwydiannau creadigol y DU yng nghwmni Sara Geater (All 3 Media), Pat Younge (Cardiff Productions) a Richard Williams (Northern Ireland Screen).
  4. Sgwrs rhwng John Whittingdale, AS, a Gweinidog Gwladol dros y Cyfryngau a Data, a Krishnan Guru-Murthy am ei flaenoriaethau ar gyfer PSB yn y dyfodol.

1. Sgwrs gyda Krishnendu Majumdar
Cynhyrchydd sydd wedi ennill Emmy a Chadeirydd BAFTA, Krishnendu Majumdar, yn sgwrsio gyda Krishnan Guru-Murthy am y rôl mae angen i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus  ei chwarae i gynnal diwydiant creadigol llwyddiannus a chynhwysol.

2. Trafodaeth Panel: ‘Mae popeth yn ymwneud â'r gynulleidfa'
Yn y sesiwn hon, dan gadeiryddiaeth Tina Daheley, mae Zai Bennett (Sky), Anna Mallett (ITN) and Shaminder Nahal (Channel 4) yn trafod beth sy’n gwneud y cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn amlwg mewn tirwedd cyfryngau brysur, sut gall darlledwyr addasu ac arloesi, a pha gynnwys fydd yn parhau’n hanfodol i gynulleifaoedd.

3. Sgwrs gyda Mark Thompson 
Mark Thompson, cyn Brif Weithredwr Channel 4, cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC a tan y mis yma Prif Weithredwr The New York Times Company, yn sgwrsio gyda Krishnan Guru-Murthy am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU.

4. Trafodaeth Panel: ‘Diwedd y gân yw’r geiniog: Cyllido darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol’
Mae chwyldro technolegol wedi rhoi mwy o ddewis gwylio a gwrando nag erioed i bobl, yn ogystal â gwahanol leoliadau i wneud hynny a pha ddyfeisiau i ddefnyddio. Mae’r pwysau a ddaw yn ei sgil ar fodelau cyllid PSB wedi bod yn sylweddol. Yn y sesiwn yma, Cathy Newman sy’n sgwrsio gyda Mathew Horsman (Mediatique), Rasmus Nielsen (The Reuters Institute), a’r Fonesig Frances Cairncross am heriau cyllido PSB heddiw a’r offer gwahanol y gellid eu defnyddio i helpu sicrhau ariannu cynaliadwy ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol.

5. Sgwrs gyda Simon Pitts 
Simon Pitts, Prif Weithredwr STV sy’n sgwrsio gyda Krishnan Guru-Murthy ynghylch arwain darlledwr gwasanaeth cyhoeddus masnachol mewn cyfnod o newid digynsail.

  1. Sgwrs Panel: ‘Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus– Yr olygfa o’r brig’
    Yn y sesiwn yma, gwnaeth Adam Boulton holi arweinwyr darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf y DU – Alex Mahon (Channel 4), Y Fonesig Carolyn McCall (ITV), Maria Kyriacou (Channel 5) a Chyfarwyddwr Cyffredinol newydd y BBC, Tim Davie – beth fydd dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU, y rhan byddan nhw’n gallu ei chwarae a beth sy’n gorfod digwydd i sicrhau bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd dros y degawd nesaf.

Digwyddiadau ar draws y DU

Ym mis Tachwedd 2020, gwnaethom gynnal trafodaeth rithwir i glywed a rhannu barn gan ein rhanddeiliaid yng Nghymru. Bydd fideo o uchafbwyntiau'r digwyddiad hwn ar gael cyn bo hir.

Rydym wedi creu rhestr chwarae fideos sy'n dangos uchafbwyntiau rhai o'r digwyddiadau eraill rydym wedi'u cynnal yn ystod yr adolygiad. Mae'r fideos yn ymdrin â'r pynciau canlynol:

  1. Beth yw rhai o'r heriau y mae PSBs yn eu hwynebu?
  2. Beth yw manteision darlledu gwasanaeth cyhoeddus?
  3. A yw darparwyr eraill, fel Netflix, Sky, Amazon ac ati, yn darparu'r un manteision?
  4. Rhai syniadau allweddol o safbwynt Cymru
  5. Sut ydych chi'n denu pobl ifanc i PSB?
  6. Y berthynas rhwng PSB a newyddion

Os hoffech wylio'r holl fideos hyn, gwasgwch chwarae a byddant yn dilyn ei gilydd mewn trefn. Os hoffech wylio fideo penodol, cliciwch saeth y gwymplen ar ochr dde uchaf y rhestr chwarae a dewiswch y fideo yr hoffech ei weld. Bydd hynny wedyn yn llwytho yn y chwaraewr fideo.